Hyfforddiant yr AHIC yn Helpu i Sicrhau Cysondeb a Phwyslais ar Werth wrth Gynllunio Iechyd Anifeiliaid o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
DATGANIAD I'R WASG
Wrth i’r dyddiad cau i ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy agosáu, mae’r Rhaglen Datblygu Iechyd Anifeiliaid yn cefnogi milfeddygon i weithio’n hyderus ac yn gyson gyda’u cleientiaid fferm i gyflawni Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) ac Asesiad Bioddiogelwch ar gyfer Stoc sy’n Cyrraedd (BAIS) ar y fferm.
Mae’r AHIC yn cefnogi ffermwyr a milfeddygon ledled Cymru i weithio gyda’i gilydd ar welliannau ymarferol, sy’n benodol i’r fferm, o ran iechyd a lles anifeiliaid, gan helpu i hybu effeithlonrwydd, cynhyrchiant a gwydnwch hirdymor. Mae’n darparu fframwaith strwythuredig sy’n caniatáu i fewnbwn milfeddygol gael ei ganolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i fusnesau fferm unigol.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Rhaglen Datblygu Iechyd Anifeiliaid, o dan arweiniad Mentera, wedi hyfforddi 174 o filfeddygon o 50 o filfeddygfeydd ledled Cymru a’r gororau. Drwy’r hyfforddiant hwn, mae milfeddygon wedi’u cyfarparu’n well i weithio ochr yn ochr â ffermwyr, gan eu cefnogi i fodloni gofynion Gweithred Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n ymwneud ag Iechyd a Lles Anifeiliaid (UA12).
Mae’r milfeddygon yn cwblhau diwrnod o hyfforddiant wyneb yn wyneb ac asesiad ffurfiol, sy’n eu galluogi i ddarparu AHIC a BAIS i gleientiaid fferm mewn ffordd gyson sy’n sicrhau ansawdd.
Mae’r AHIC wedi’i gynllunio i fod yn broses adeiladol sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth ac sy’n benodol i bob fferm, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau iechyd allweddol yn hytrach na gweithredu fel archwiliad untro. Dros gylch o 12 mis, mae ffermwyr a milfeddygon yn cydweithio i asesu problemau iechyd a flaenoriaethir, ac i gytuno ar gamau gweithredu targed. Gall y rhain gynnwys heriau megis cloffni, mastitis neu glefyd Johne, a gall pob un o’r rhain gael cryn effaith ar gynhyrchiant, proffidioldeb ac iechyd anifeiliaid.
Bydd cost ac amser darparu AHIC effeithiol, a fydd yn cynhyrchu elw ar fuddsoddiad, yn amrywio o fferm i fferm. Bydd hyn yn dibynnu ar ffactorau fel y math o fenter sydd gan y fferm, maint y fuches neu’r ddiadell, y statws iechyd presennol, a dyfnder y drafodaeth sydd ei hangen i nodi’r camau mwyaf costeffeithiol ar gyfer y fferm benodol honno.
Mae’r buddsoddiad hwn, a gefnogir gan arbenigedd milfeddygol lleol, wedi’i gynllunio i sicrhau gwerth hirdymor drwy adnabod problemau’n gynnar, lleihau costau y gellir eu hosgoi, a gwella cynhyrchiant a pherfformiad dros amser.
Mae’r AHIC yn rhan o’r Haen Gyffredinol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy’n golygu bod y Taliad Sylfaenol Cyffredinol wedi’i fwriadu i dalu am gostau nodweddiadol cyflawni gweithredoedd fel UA12. Er y bydd costau’n amrywio o fferm i fferm yn dibynnu ar eu maint a’r gwaith dan sylw, mae’r Haen Gyffredinol wedi’i dylunio fel nad yw ffermwyr yn gorfod ariannu gofyniad ychwanegol eu hunain.
Yn ôl yr hyn a welwyd wrth beilota’r AHIC, ceir manteision i’r dull targedig hwn, a gaiff ei lywio gan ddata. Ar Fferm Tyddyn Mawr ger Conwy, gweithiodd y ffermwr biff, Aled Jones, gyda’i filfeddyg, Anna Williams o Wern Vets, i adolygu data’r fuches fel rhan o AHIC.
Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw nodi cyfraddau gwag uchel fel blaenoriaeth allweddol. Cadarnhaodd profion wedi’u targedu, wedyn, fod clefyd Johne yn bresennol yn y fuches, gan ganiatáu i’r fferm roi ar waith gynllun hirdymor clir i wella iechyd a chynhyrchiant y fuches. Mae clefyd Johne yn lleihau ffrwythlondeb, swm y llaeth a gynhyrchir, a thwf lloi, gan arwain at lai o loi’n cael eu gwerthu a mwy o golledion. Dengys ymchwil gan SRUC y gall clefyd Johne, mewn buches nodweddiadol sy’n cynnwys 100 o wartheg sugno, gostio tua £4,500 y flwyddyn, yn bennaf oherwydd llai o allbwn a chostau uwch o ran gwartheg cyfnewid.
Dywedodd Aled Jones: ”Cadarnhaodd y data yr hyn roeddwn i’n ei amau’n barod, ond roedd rhoi camau clir ar waith i fynd i’r afael ag ef yn union yr hyn roedd ei angen arnom. Rhoddodd y ffocws hwnnw hyder i ni ein bod yn mynd i’r afael â’r pethau cywir ac yn gosod y fuches sugno ar well sail ar gyfer y dyfodol.”
Ychwanegodd Anna Williams: ”Mae’r AHIC yn ymwneud â chanolbwyntio mewnbwn milfeddygol lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae’r ffermwyr yn dewis yr her iechyd sydd bwysicaf iddyn nhw, a gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu camau ymarferol o gwmpas hynny. Wrth i ffermydd a milfeddygon fynd drwy’r cylch o flwyddyn i flwyddyn, mae’n dod yn fwy effeithlon ac yn dod â mwy o werth.”
Dywedodd Menna Davies, Arweinydd Iechyd Anifeiliaid, Mentera: ”Uchelgais yr AHIC yw helpu ffermydd i wella cynhyrchiant, gwydnwch a chanlyniadau iechyd anifeiliaid dros amser. Gall adnabod problemau’n gynnar a rhoi cynlluniau strwythuredig ar waith atal costau llawer uwch yn y dyfodol. Mae’r rhaglen hyfforddi yn sicrhau bod milfeddygon ledled Cymru yn cynnal AHICau yn gyson ac mewn ffordd sy’n cynnig gwerth da i ffermwyr a’r cynllun.”
Anogir ffermwyr i gysylltu â’u milfeddygfeydd yn gynnar ac i baratoi cofnodion allweddol cyn trafodaethau’r AHIC. Mae hyn yn helpu i wneud y defnydd gorau o amser y milfeddyg ac yn sicrhau bod y broses yn canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na gwaith papur.
Gyda rhagor o hyfforddiannau wedi’u trefnu, a Hyb Adnoddau ar-lein yn cael ei ddatblygu, bydd y Rhaglen Datblygu Iechyd Anifeiliaid yn parhau i gefnogi milfeddygon wrth iddyn nhw weithio gyda ffermwyr ledled Cymru i fodloni’r gofynion sy’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Diwedd.
CAPSIWN Y LLUN:
Anna Williams o Wern Vets gydag Aled Jones o Fferm Tyddyn Mawr, yn adolygu data iechyd y fuches ac yn cytuno ar y camau ymarferol nesaf fel rhan o’r AHIC.
NODIADAU I OLYGYDDION
Mae’r Rhaglen Datblygu Iechyd Anifeiliaid, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’i harwain gan Mentera, yn darparu rhaglen hyfforddi a sicrhau ansawdd sy’n cefnogi’r Weithred Gyffredinol sy’n ymwneud ag Iechyd a Lles Anifeiliaid yng Nghynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
CYSWLLT Y CYFRYNGAU:
Am ragor o wybodaeth neu ar gyfer ymholiadau’r wasg, anfonwch e-bost at ahic@mentera.cymru neu ffoniwch Menna Davies ar 07956 194 850.